Mae Sgandinafiaeth, a elwir hefyd sgandinafyddiaeth[angen ffynhonnell], Llychlyniaeth[angen ffynhonnell] yn ideoleg sy'n cefnogi gwahanol raddau o gydweithrediad ymhlith y gwledydd Sgandinafaidd. Yn Saesneg, defnyddir termau megis scandanivism, scandinavianism[1]; neu pan-scandanavianism[2]. Mae sgandinafiaeth yn cynnwys y mudiad llenyddol, ieithyddol a diwylliannol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo gorffennol Sgandinafaidd, treftadaeth ddiwylliannol, a mytholeg Llychlynnaid sy'n gyffredin i'r tair gwlad, yn ogystal â chontinwwm iaith neu dafodiaith gyffredin (o iaith hynafiad cyffredin yr Hen Norseg). Arweiniodd sgandinafiaeth at y ffurfio cyfnodolion a chymdeithasau ar y cyd i gefnogi llenyddiaeth ac ieithoedd Sgandinafaidd.[3] Mae Nordiaeth yn ehangu'r cwmpas i gynnwys Gwlad yr Iâ a'r Ffindir.[4]
Gellir gweld cymhariaeth rhwng agweddau ar Sgandinafiaeth â Phan-Geltiaeth y gwledydd Celtaidd.